Merched Parchus

  • :
  • : 8
  • : 0
  • 0
  • Comedy Drama

:

.

1
1x1
Pennod 1
Episode overview
Mae Carys, sydd ag obsesiwn â phodlediadau troseddau real, yn sengl am y tro cynta ers tyfu boobs. Mae'n 27 ac yn gorfod symud nôl i fyw gyda'i rhieni. Mae hi nôl ble'r oedd hi ddeng mlynedd yn ôl, dim job, dim cariad a dim syniad beth i neud nesa.
1x2
Pennod 2
Episode overview
A'i chalon yn deilchion, mae Carys yn gwneud ei ffordd gyda'r Merched Parchus i barti mewn ty llawn cyfryngis - yn chwilio am rywbeth neu rywun i wneud iddi deimlo'n well.
1x3
Pennod 3
Episode overview
Er bod lansio cyfrol Phill Meredith 'Hanes yr A470' yn artaith i awdur diog fel Carys, tybed a fydd cwrdd â'r llenor Tudur George yn ddechrau ar rywbeth mawr iddi' Yn y cyfamser mae'r Merched Parchus yn cael eu cyfarfyddiadau arwyddocaol eu hunain.
1x4
Pennod 4
Episode overview
Diolch i Dan, mae Carys yn ôl yn dysgu hanes yn ei hen ysgol, sy'n gam ar y ffordd at annibyniaeth - ond mae ei sioc ar ôl galwad ffôn ar ddiwedd ei diwrnod cyntaf yn ei hatgoffa nad yw popeth yn mynd yn iawn yn ei bywyd ar hyn o bryd.
1x5
Pennod 5
Episode overview
Blwyddyn newydd, agwedd newydd i Carys. Amser i fod yn heini, bwyta'n dda a bwrw mlaen i ysgrifennu ei llyfr. Ond gyda gweddill y Merched Parchus yn brysur gyda bywydau eu hunain, pa mor hir gall y positifrwydd yma bara'
1x6
Pennod 6
Episode overview
Gyda'r chlamydia wedi clirio a dal yn simsanu ar ol cyfaddefiad Emyr mae Carys yn dianc i Ogledd Cymru i gwrs ysgrifennu Tudur George. Yn y cyfamser mae pawb arall yn dathlu agoriad arddangosfa Lowri yng Nghaerdydd.
1x7
Pennod 7
Episode overview
Mae'n noson Rygbi yng Nghlwb Ifor Bach. Mae Carys wedi cyrraedd pen ei thennyn, wedi dieithrio oddi wrth ei ffrindiau ac yn fwy blin ac afresymol nag erioed.
1x8
Pennod 8
Episode overview
Yn difaru'r noson gynt, mae Carys yn ceisio cymodi gyda gweddill y Merched Parchus.